Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-11-12 papur3

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - Cyngor Sir Ceredigion

 

1.       Y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl, ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned gan gynnwys gwasanaethau ail-alluogi a gofal yn y cartref.

 

Proses a ddilynir gan bobl hyn wrth iddynt fynd i Ofal Preswyl.

 

Nid yw’r penderfyniad i symud i ofal preswyl yn un hawdd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, i’w teuluoedd, i’w gofalwyr anffurfiol nac i staff Gwasanaethau Oedolion. Mae’n newid bywyd rhywun, ac mae wedi ei gymharu â phrofedigaeth gan rai: gadael eich cartref, eich atgofion a’ch annibyniaeth.

 

Gwneir pob ymdrech gan staff Gwasanaethau Oedolion, i ddarparu gwasanaeth sy’n galluogi defnyddwyr gwasanaethau i barhau i fyw’n saff ac mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain.  Pan dderbynnir cyfeireb, boed yn hunan gyfeireb neu’n gyfeireb gan deulu, gan ffrindiau neu gan weithiwr proffesiynol, gwneir asesiad cynhwysfawr o anghenion. Ategir at yr asesiad gan y defnyddiwr gwasanaethau, teuluoedd a ffrindiau (gyda’u caniatâd) a gweithwyr proffesiynol eraill yn ymglymedig â’u gofal (Nyrs Ardal, Nyrs Seiciatrig, Meddyg Teulu, Staff yr Ysbyty, Therapydd Galwedigaethol a Ffisiotherapydd, fel yn briodol). Wrth drafod gyda’r defnyddiwr gwasanaethau, y teulu a ffrindiau, bydd cynllun gofal yn cael ei lunio i gwrdd â’r anghenion a gafodd eu hadnabod, ac i hyrwyddo annibyniaeth. Bydd y cynllun yn cael ei arolygu a’i ddiwygio yn rheolaidd, er mwyn cwrdd ag anghenion cyfnewidiol.

 

Gall y cynllun gofal amrywio o gyfeirebau, i wasanaethau cymunedol ee  gwasanaeth glanhau Age Cymru, cefnogaeth am chwe wythnos gan y Tîm Ailalluogi er mwyn adennill annibyniaeth flaenorol, gofal cartref hir dymor, neu leoliad mewn cartref preswyl neu ofal. Y flaenoriaeth flaenaf ydy darparu’r gwasanaeth yng nghartref y defnyddiwr gwasanaethau mor hir â phosib gyda rheolaeth risg briodol. Ystyrir lleoliad mewn cartref gofal preswyl dim ond pan na ellir cyflawni hyn.

 

Dylid nodi bod y rheini sydd â’r gallu i ariannu eu lleoliad yn medru mynd i gartrefi gofal preifat heb atebolrwydd i’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Heblaw am dderbyniadau Brys neu Ofal ar y Cyd, bydd y Rheolwr Cofrestredig neu Reolwr Cynorthwyol yn cwrdd â’r defnyddwyr gwasanaethau sydd wedi eu cyfeirio i Gartref Preswyl, ac yn cynnal asesiad er mwyn canfod a all y cartref gwrdd ag anghenion y defnyddiwr gwasanaeth hwnnw.

 

MaeGwasanaethau Ailalluogi ar gael gyda chyfeireb gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol. Mae’n wasanaeth am ddim am chwe wythnos ac yn cynnig therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a chefnogaeth arbenigol. Gellir trefnu mân addasiadau neu gyfarpar. Mae hwn yn wasanaeth ymyrryd sydd wedi ei anelu at adennill annibyniaeth.

 

Gellir darparu prydau yn y cartref am ddim am chwe wythnos ar ôl bod yn yr ysbyty, os nad oes eu hangen yn y tymor hir, yn amodol ar asesiad a chwrdd â’r meini prawf cymhwysedd. Gellir eu darparu yn y tymor hir am gost o £3.50 y dydd, yn amodol ar asesiad a chwrdd â’r meini prawf cymhwysedd. Mae’r opsiwn o bryd atgynyrchiedig hefyd ar gael.

 

Gellir darparu gofal dydd mewn mannau cyfarfod amrywiol gyda rhai yn arbenigo mewn gofal am bobl a dementia. Cynllunnir y gwasanaeth er mwyn mynd i’r afael ag arwahanu cymdeithasol i’r rheini sy’n mynychu, a seibiant i’w gofalwyr.

 

Gellir trefnu gofal seibiant mewn cartref preswyl er mwyn cefnogi gofalwyr anffurfiol. Rhoddir hyn gyfle i ddefnyddwyr gwasanaethau gael saib a chymdeithasu gyda’u cyfoedion. Codir tâl am y gwasanaeth yma, yn amodol ar asesiad ariannol.

 

Gofal Tymor Byr- mae rôl y Gwasanaeth Ailalluogi yn cynnwys lleihau dibyniaeth ar ofal preswyl. Gellir cyfeirio unrhyw un sydd wedi ei dderbyn ar leoliad tymor byr mewn cartref preswyl, i’r Gwasanaeth Ailalluogi. Gall ffisiotherapyddion weithio ar wella trosglwyddiad a symudedd, a bydd y therapydd galwedigaethol yn ymgymryd ag ymweliadau â’r cartref, cynnig cyngor am offer ac addasiadau fydd yn galluogi dychwelyd i’r cartref, ac yn ymgymryd ag asesiad o anghenion gofal cymdeithasol. Cyfeirir unrhyw un sydd wedi ei dderbyn i Wely Gofal ar y Cyd (gwlâu sydd wedi eu hariannu ar y cyd gan ofal iechyd a chymdeithasol mewn cartrefi preswyl yr Awdurdod Lleol), i’r Gwasanaeth Ailalluogi er mwyn hwyluso’r drefn o ddychwelyd adref. Pan nad yw hyn yn bosib o fewn yr uchafswm o 28 diwrnod ar ôl mynediad, yna trosglwyddir y person i wely tymor byr a bydd y gwasanaeth yn parhau i weithio gyda hwy os yw’n ymddangos yn realistig y gallant ddychwelyd adref gyda’r ymyrraeth hwn. Gellir cyfeirio unrhyw un mewn gofal preswyl tymor hir hefyd, os ydynt yn dymuno dychwelyd adref eto.

 

Darperir Gofal Cartref i’r rheini sydd angen cymorth gyda gofal personol a gweithgareddau o ddydd i ddydd, er mwyn eu galluogi i barhau i fyw yn y gymuned gydag annibyniaeth, urddas a pharch. Mae hyn yn amodol ar asesiad a chwrdd â’r meini prawf cymhwysedd.  Mae hyn yn amodol ar bolisi codi tâl tecach (uchafswm o £50 yr wythnos).

 

Derbyniadau Brys

 

Cartref o Ddewis – Defnyddia Ymddiriedolaeth Iechyd Hywel Dda bolisi Cartref o Ddewis mewn enghreifftiau ble nad yw’r man gofal sy’n cael ei ffafrio ar gael. Trosglwyddir y claf i Gartref o Ddewis dros dro hyd nes  bydd y man gofal sy’n cael ei ffafrio ar gael. Mae’r polisi yma yn cael ei adolygu ar y foment, ac felly ni ellir ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Oedi wrth drosglwyddo gofal - Bydd gweithwyr proffesiynol Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn cyfarfod yn wythnosol er mwyn dilysu oediadau rhyddhau o’r ysbytai yn y dalgylch. Mae’r grŵp yn adnabod unrhyw gleifion sydd â photensial i fod â phroblemau wrth gael eu rhyddhau or ysbyty. Gweithia’r asiantaethau gyda’i gilydd i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau i amgylchedd saff pan fyddant yn abl i wneud hynny.

 

Cynllun tywydd gwael - Yn ystod tywydd gwael trefnir derbyniadau ‘man diogel’ ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau. Gall hyn fod oherwydd methiant yng nghyflenwad trydan, dŵr neu wres, neu os ydyr defnyddwyr gwasanaeth yn byw mewn llefydd anghysbell.

 

Gwlâu Gofal ar y Cyd - gall gweithiwr proffesiynol gofal iechyd neu gymdeithasol drefnu bod defnyddiwr gwasanaethau yn cael gwely dros dro am ychydig ddyddiau (am uchafswm o bedair wythnos) er mwyn osgoi cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu osgoi aros yn yr ysbyty pan all ailalluogi fod yn fuddiol i’w gwellhad. Mae’r cynllun yn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen i’w cynorthwyo i wella eu gallu i wneud pethau, fel y gallant ddychwelyd i’w cartrefi eu hunain mor fuan â phosib.

Rhagfyr 5 – nifer y gwlâu gwag yn ein Cartrefi – 23. Nifer y gwlâu gwag yng nghartrefi preswyl a gofal yng Ngheredigion – 42, a bydd 20 arall ar gael yr wythnos yma pan fydd yr adran gomisiynu yn cael y dystysgrif gofrestru briodol ar gyfer Hafan y Waun.

 

Darperir y gwasanaeth Cefnogi Pobl yn dilyn asesiad a chyfeireb am gefnogaeth tenantiaeth. Gall hyn olygu gwneud cais am lety gwarchod neu dai gofal ychwanegol, rheoli dyledion neu gyllido ayyb.

 

Llety Gwarchod– mae nifer o gyfleusterau llety gwarchod ar gael ar draws Ceredigion.

 

Tai Gofal Ychwanegol- nid pawb sy’n dymuno symud o’u cartrefi i ddiogelwch a gwasanaethau ychwanegol  y tai gwarchod, ac yng nghynllun Ceredigion mae’r gwasanaeth gofal cartref mewnol yn ddarpariaeth amgen i’r gofal preswyl.

 

Cynghorydd Budd-daliadau Lles- Ar hyn o bryd mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Ceredigion Gynghorydd Budd-daliadau Lles i’r rheini sydd â diagnosis cancr neu afiechyd terfynol, ac mae yn y broses o apwyntio Gweithiwr Cymdeithasol Arbenigol. Ariennir y swyddi hyn gan MacMillan.

 

Darperir gwasanaethau amrywiol yn y gymuned gan elusennau:

 

Age Cymru: Glanhau, Cyfeillio, Gwirio Budd-daliadau Lles, Eiriolaeth.

 

Crossroads: Seibiant i Ofalwyr gyda gwasanaeth gwarchod, Clwb Sadwrn, Canolfan Ddydd Dementia

 

Ffagl Gobaith: Gwasanaethau amrywiol ar gyfer pobl sydd ag afiechyd terfynol neu sy’n byrhau bywyd.

 

Amryw o gynlluniau cludiant cyhoeddus ee Ceir y Wlad, Ceir i Ofalwyr, Gyrwyr Gwirfoddol o Ganolfan Gwirfoddoli Ceredigion.

 

Mae Canolfan Gwirfoddoli Ceredigion yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i staff Gofal Oedolion wrth greu cynlluniau gofal arloesol i gyd-fynd gydag anghenion unigolion.

 

Mae Staff Gofal Oedolion hefyd yn ymwybodol o wasanaethau cyffredinol sy’n cael eu darparu gan ddarparwyr masnachol yn y cartref:

 

Gwasanaeth cludo negesau, presgripsiynau a phrydau.

 

Ymweliadau cartref gan drinwyr  gwallt, ciropodyddion, deintyddion, optegwyr a chyfreithwyr ayyb.

 

Tacsi gyda mynediad ar gyfer cadair olwyn.

 

Bydd y gwasanaethau sydd ar gael o fewn y gymuned gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, Darparwyr Preifat ac Elusennau yn galluogi staff Gwasanaethau Oedolion i barhau i ddarparu cefnogaeth arloesol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn cefnogi pobl i barhau i fyw yn saff ac mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain, cyn hired â phosib. Pan na fydd hyn yn bosib, byddant yn parhau i gefnogi’r defnyddiwr gwasanaethau wrth i’r penderfyniad gael ei wneud i symud i ofal preswyl / nyrsio a sicrhau bod hyn yn cael ei reoli mor sensitif â phosib.

 

2.       Gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r galw am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.

 

Y gallu i fodloni’r galw am wasanaethau.

 

Adnoddau Staffio

 

Mae’r Awdurdod yn cyflogi 281 o staff mewn 7 Cartref Preswyl o fewn y sir.

 

Nid oes lleiafswm o lefel staffio wedi ei chynnig gan AGGCC ond mae’r adran wedi gosod a chytuno ar lefel saff, ac fe godir y lefelau staffio os oes dibyniaeth uchel neu farwolaeth mewn Cartref.

 

Mae lefelau salwch yn y gwasanaethau cymdeithasol yn uwch na chyfartaledd yr awdurdod. Canran absenoliaeth staff cyflogedig o fewn yr Adran ydy 4.98%, tra bo canran absenoliaeth staff sy’n cael eu talu’n wythnosol yn 10.3%. Mae’r Adran yn gweithredu’r polisi salwch ac yn cynnal cyfweliadau adolygu absenoldeb mewn cyswllt â’r  Personél Corfforaethol, gydag aelodau o staff sydd ar absenoldeb hir dymor neu sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn. Mae hon yn broses gyfredol yn yr  Adran.

 

Mae pob absenoldeb yn cael ei gyflenwi gan aelodau eraill o staff sydd yn cymryd mwy o waith, gan gynorthwywyr gofal sy’n cyflenwi, neu, ar adegau, staff o gartrefi preswyl eraill sydd yn cynorthwyo. Pan fydd preswylydd angen gofal ychwanegol oherwydd materion meddygol, bydd Meddygon Teulu, Nyrsys Ardal, Tîm Ymateb Acíwt, Ffagl Gobaith a nyrsys MacMillan yn cynorthwyo’r staff.

 

Sgiliau

 

Mae’r rhan fwyaf o’r staff yn gymwysedig at NVQ lefel 2,3 neu 4 yn briodol i’w swydd. Mae dros 90% o staff mewn cartrefi preswyl yn gymwys. Mae 68% o staff cartrefi preswyl yn siarad Cymraeg.

 

Hyfforddiant sydd ar gael

 

Hyfforddiant ar safle yw’r dull sy’n cael ei ffafrio. Er mwyn galluogi staff i ddiwallu’r anghenion rheoleiddio a chofrestru, mae hyfforddiant mewnol yn ei atodi gyda Gweithwyr Proffesiynol Iechyd yn dod i’r Cartrefi, a Rheolwyr yn ymgymryd ag hyfforddiant drwy becyn hyfforddiant DVD.  Trwy hynny gall y Rheolwyr fonitro a diwallu’r 90 awr sy’n ofynnol i gofrestru gyda’r Cyngor Gofal.

 

Newid Defnydd yng Nghartref Preswyl Awel Deg

 

Mae’r Cabinet wedi cytuno y gall Cartref Preswyl Awel Deg, sydd yn gartref preswyl cyffredinol gydag uned dementia, fynd yn ei blaen gyda chynlluniau i ddyfod yn Gartref Gofal yn arbenigo mewn gofal dementia.

 

3.       Ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiad defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.

O dan y rheoliadau mae gan bob Gartref bedwar ymweliad y flwyddyn gan Unigolyn Cyfrifol. Bydd hyn yn amlygu unrhyw faterion yn y Cartrefi. Mae pob Cartref wedi ennill ardystiad o dan Safonau ISO 9001:2008 ac wedi profi gwelliant parhaus.

Mae cyfarfodydd preswylwyr yn digwydd yn gyson. Cymerir cofnodion a bydd adborth am bwyntiau i’w gweithredu.

Mae adolygu cynlluniau gofal bob mis gyda Preswylwyr, yn eu galluogi i  fynegi unrhyw ddewisiadau neu bryderon sydd ganddynt.

Rhennir holiaduron i’r Preswylwyr, perthnasau agosaf a staff: mae sgôr bodlonrwydd uchel iawn.  Mae arolygwyr AGGCC hefyd yn cynnal arolwg gyda phreswylwyr, perthnasau agosaf a staff, yn ogystal ag asiantaethau eraill megis meddygon teulu a Nyrsys Ardal.

Mae gan yr awdurdod drefn gwyno gadarn sydd yn ei lle. Mae gan yr holl breswylwyr bamffledi ac maent yn cael eu cynorthwyo os ydynt yn dymuno gwneud cwyn. Gyrrir cwynion ymlaen i reolwyr uwch.

Ers Ionawr 1, 2011 mae ein cartrefi wedi cael 4 cwyn a 153 o gyfarchion.

Amrywiaeth o anghenion

Mae cynlluniau cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael eu llenwi ac mae gwybodaeth berthnasol ar gael i’r staff.

Mae Datganiad o Ddiben gofal preswyl yn cynnwys athroniaeth o ofal manwl (wedi ei atodi).

Dwysâd mewn pryderon

Mae’r dwysâd mewn pryderon yn codi pan mae materion yn crynhoi ynglŷn â gweithrediad y gofal, neu ansawdd y gofal a ddarperir mewn cartref gofal cofrestredig. Mae cyfarfodydd a gynhelir o dan brotocol dwysâd mewn pryderon yn ffocysu ar y darparwr gofal ac maent ar wahân i gyfarfodydd amddiffyn oedolyn.

Mewn amgylchiadau ble mae methiant yn y ddarpariaeth wedi achosi neu yn gallu achosi niwed sylweddol, yna cam-drin oedolion ydy hyn. Os oes amheuaeth o gamdriniaeth, dylai’r polisi a’r  weithdrefn i amddiffyn oedolion sy’n agored i niwed gymryd blaenoriaeth. Mewn llawer o sefyllfaoedd efallai y byddai o fudd i’r defnyddiwr gwasanaethau, i ddefnyddio’r weithdrefn dwysâd mewn pryderon ochr yn ochr â’r gweithdrefnau amddiffyn oedolyn.

4.       Darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg.

Prosiect Cylch Caron, Tregaron.

Prosiect arfaethedig ar gyfer datblygiad newydd, sy’n dod a phartneriaethau gofal iechyd a chymdeithasol at ei gilydd i ddarparu tai ‘gofal ychwanegol’. Bydd Bryntirion, Ysbyty Tregaron a Meddygfa Tregaron yn cyfuno i ddarparu ysbyty, gofal nyrsio, gofal preswyl, canolfan ddydd yn ogystal â gofal ychwanegol. Disgwylir i wasanaethau eraill fod ynghlwm, ee, technoleg gynorthwyol, ailalluogi , gofal cartref ayyb. Bydd Cylch Caron yn cynnwys ardal o fewn radiws o oddeutu 7 - 10 milltir o Dregaron.

Mae’r prosiect ar gam ‘Achos Amlinelliad Busnes’  Llywodraeth Cynulliad Cymru.

5.       Effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.

Mae’r adran bellach yn adolygu’r trefniadau archwilio ar gyfer yr holl wasanaethau sydd wedi eu contractio gan gynnwys gofal preswyl, ac mae’n datblygu fframwaith monitro fydd yn darparu ystod o wybodaeth fydd yn perthnasu i ansawdd, gwerth, hyfywdra ac effeithiolrwydd y gwasanaethau wrth drosglwyddo deilliannau i’r defnyddwyr gwasanaethau. Mae agweddau o’r fframwaith yn cynnwys

·         Monitro cyfarfodydd gyda darparwyr yn rheolaidd,

·         Tracio ac asesu risg cyfeirebau Amddiffyn Oedolion sy’n Agored i Niwed, cwynion a phryderon,

·         Adroddiadau blynyddol  a gwiriadau/ arolygiadau ar safle, ar sail thematig gan ymdrin ag ardaloedd sydd wedi eu hadnabod,

·         Archwilio cyfrifon blynyddol,

·         Archwilio adroddiadau AGGCC ac eraill er mwyn  amlygu materion ac i osgoi dyblygiadau.

Yn ychwanegol, mae’r Adran wedi cyflwyno fforwm darparwr gofal er mwyn rhannu ymarfer da, trafod materion a chydweithio.

6.       Y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae gan yr adran ddealltwriaeth o’r cydbwysedd rhwng darpariaeth y sector cyhoeddus a’r sector preifat ac mae’n gweithio gyda darparwyr y sector preifat i drosglwyddo gwasanaethau o ansawdd a chynaladwyedd trwy’r fframwaith Monitro, y fforwm a’r ymarfer gosod tâl.

Yn gyfredol yng Ngheredigion o fewn y Sector Preifat mae 110 o wlâu preswyl preifat (gan gynnwys hyd at 12 o wlâu preswyl ar gyfer henoed bregus eu meddwl, Cartref Henllan), a 62 o wlâu preswyl preifat ar gyfer henoed bregus eu meddwl.

Mae’r Awdurdod Lleol yn cynnig 184 o wlâu gofal preswyl ac 8 o wlâu ar gyfer henoed bregus eu meddwl.

Fel ardal wledig wasgaredig, nid oes gan y sir y profiad o ystod o fodelau perchnogaeth, ond byddai’n awyddus i ystyried opsiynau amgen. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn trosglwyddo model cyntaf y sir o dai ‘gofal ychwanegol’, sydd â 48 uned. Mae’r awdurdod yn awyddus i archwilio datblygiadau ar yr un thema yn y dyfodol, ac maent ar hyn o bryd yn edrych ar gynnig ‘gofal ychwanegol’ yn Nhregaron fydd yn cynnwys adnoddau iechyd. Bydd y model yma yn darparu gwlâu ysbyty gymunedol, gofal preswyl, unedau tai ‘gofal ychwanegol’ a chanolfan iechyd gymunedol. Mae hon yn agwedd arloesol wrth ddarparu gwasanaethau i gymuned wledig.

Wrth ystyried hyfywdra ariannol, mae’r adran yn gweithio’n agos gyda’r fforwm darparwyr gofal er mwyn deall a chytuno’n deg ar gostau gofal pobl hŷn mewn ymateb i Ganllawiau Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru: Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol - strategaeth, fframwaith ac arfer da ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol.

Mae’r ddogfen yn nodi:

‘Dylai comisiynwyr gael sail resymegol i egluro eu dull o osod ffioedd. Y pryder sylfaenol ydy bod gwasanaethau yn gweithredu’n effeithiol ac yn ddiogel er mwyn hyrwyddo lles y defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, ac yn ateb gofynion rheoli.’

Trwy’r fforwm darparwr gofal mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i gydweithio gyda sampl o ddarparwyr er mwyn ennill dealltwriaeth well o gostau darparwr o Geredigion wrth osod ffioedd am 2011/12.  Yn y dyfodol gellir ehangu’r broses hon i weithio gydag ystod ehangach o ddarparwyr. Bydd hyn yn sicrhau yr ystyrir hyfywdra ac ansawdd y ddarpariaeth ar yr un pryd, ac yn cynorthwyo wrth drosglwyddo sefydlogrwydd o fewn y sector.

Mewn enghreifftiau ble mae hyfywdra wedi dod yn fater i rai gwasanaethau, mae’r adran wedi galw ar drefn Dwysâd mewn Pryderon Llywodraeth Cymru, sydd yn darparu templed ar gyfer rheoli materion sy’n gysylltiedig â gweithredu neu’r ansawdd gofal sy’n cael ei ddarparu mewn lleoliadau gofal wedi eu cofrestru. Mae hefyd yn darparu cyfarwyddyd wrth reoli cau cartrefi gofal. Darpara’r fformat yma agwedd amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau y delir â phryderon mewn modd sy’n anelu at gefnogi darparwyr ac osgoi cau ble mae hynny’n bosib. Yn ogystal, darparu cyfarwyddyd wrth gau cartrefi gofal. Mae’r prosesau yma yn sicrhau parhad o ofal i’r holl ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n gysylltiedig.

Rhagfyr 5, 2011


 

Gellir dod o hyd I’r ddogfennau islaw ar wefan y Pwyllgor trwy’r linc isod – RC 19 Cyngor Sir Ceredigion.

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=2222

A – Dogfen Integreiddio OP

B – Paneli Cymhwyster / Comisiynu

C – Ffioedd a phamffledi Technoleg Gynorthwyol Ceredigion

D – Dyddiadur Hyfforddiant Tachwedd 2011 – Awst 2011

E – Strategaeth Hyfforddiant Gwasanaethau Uniongyrchol y Gwasanaethau cymdeithasol

F – Contract y Sector Annibynnol – Gofal Cartref / Preswyl/ Cartref Nyrsio

G – Datganiad o ddiben

H – Dogfen ‘gofal ychwanegol’

I -  Datganiad o ddiben ar gyfer Cartrefi Preswyl

J – Pamffled Pryd yn y Cartref

K – Datganiad o ddiben ar gyfer Gwasanaeth Ailalluogi Ceredigion

L - Oedi wrth Drosglwyddo Gofal - Termau Cyfeirio'r Grŵp Gwaith